
Gŵyl y Gwlân a’r Helyg
Mai 30 @ 10:30 am – Mehefin 27 @ 4:30 pm

Mae Gŵyl Gwlân a Helyg yn ddigwyddiad gwerthu cyffrous a hynod lwyddiannus sy’n dod â phobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt ynghyd i rannu angerdd dros wlân, helyg a deunyddiau naturiol. Mae’r Ŵyl yn cynnwys arddangosfeydd o ansawdd uchel, pob un wedi’i wneud gan gynhyrchwyr arbenigol yng Nghymru a siroedd y Gororau. Mae’r Ŵyl ar agor saith diwrnod yr wythnos ac mae’r arddangoswyr yn gweithio ynddi bob amser ar sail rota. Bydd yn rhedeg am bedair wythnos y flwyddyn nesaf, o’r 30ain Mai i’r 27ain Mehefin, 2026.
Mynediad am ddim.
7 diwrnod yr wythnos
10.30am-4.30pm