Defnyddir helyg amryliw o ffynhonnellau adnewyddadwy i greu basgedi lliwgar a thrawiadol. Dylunir nhw i’w defnyddio fel basgedi siopa, basgedi ar gyfer y beic, ar gyfer storio neu fel addurniadau. Maent yn gynaliadwy, bioddiraddadwy ac adnewyddadwy.
I mi, mae basged yn fwy na’r rhywbeth a ddefnyddir o ddydd i ddydd, mae’n undod o gelf a chrefft gyda’u gilydd greu rhywbeth unigryw o ran ei ffurf, gwead a siâp.
Rwyf wedi ymddiddori mewn gweadau gwahanol trwy gydol fy mywyd, ac mae edau a phwythau ailadroddus wedi bod yn ffocws amlwg i mi, yn fy sefydlogi ac yn fy helpu i ganfod canol llonydd. Mae fy ngwaith yn ymwneud gyda ffocysu manwl ar dechnegau traddodiadol gan weld i ba gyfeiriad y gallaf wthio eu ffiniau, gan gyfuno technegau a deunyddiau fel helyg, broc a brethyn. Rwyf yn hoff o arbrofi gyda phatrymau a lliw o fewn paled helyg a brethyn. Defnyddiaf lawer o frethyn Melin Wlan Trefriw yn fy ngwaith.
Mae siapiau crynion, crymlinellau meddal sy’n tynnu’r llygaid yn araf ar draws y siâp yn fy nennu. Rwy’n hoff o wthio ffiniau swyddogaeth basged a’i gwthio i i fod yn gelfyddyd heb iddi fod angen pwrpas. “Lle mae crefft a chelf yn cyfarfod.”