
Ymunwch â ni yn Ffair Nadolig Portmeirion
Rhagfyr 4 @ 9:30 am – Rhagfyr 6 @ 5:30 pm GMT
Rydym yn dychwelyd unwaith eto i Neuadd Hercules yn Ffair Nadolig Portmeirion fis Rhagfyr eleni, o ddydd Gwener y 4ydd i ddydd Sul y 6ed.
Yn Ffair Nadolig Portmeirion, bydd y gorau o grefftau, bwyd, diod, anrhegion ac adloniant lleol yn ymuno â ni. Yn ogystal â chrefftau, bwyd a chynnyrch lleol, mae rhaglen lawn o adloniant at ddant pawb.
Mae lle parcio cyfyngedig ar y safle, ond gallwch ddefnyddio’r bws gwennol am ddim sy’n rhedeg bob dydd o du allan i’r Australia Inn ar stryd fawr Porthmadog rhwng 9:00 a 18:00. Mae parcio am ddim hefyd ym Maes Parcio Llyn Bach (wrth ymyl maes parcio B&M).
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.
