
Gwneud basged aeron helyg i ddechreuwyr gydag Eirian Muse
Rhagfyr 13 @ 9:30 am – 4:00 pm GMT
Ymunwch â’r gwneuthurwr basgedi Eirian Muse am ddiwrnod myfyriol o wehyddu basgedi yn Trigonos, lle byddwch yn creu basged aeron unigryw o amrywiaeth o helyg lliwgar. P’run ai ydych yn ddechreuwr neu’n wneuthurwr sydd am loywi eich sgiliau gwneud basgedi, bydd Eirian yn eich tywys drwy amrywiaeth o dechnegau gwehyddu mewn gofod creadigol a hamddenol.
Mwynhewch harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri, dysgu sgiliau newydd a chyfarfod ag unigolion creadigol o’r un anian.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
- Creu eich basged eich hun. Crëwch eich basged wehyddu unigol eich hun dan hyfforddiant Eirian, a mynd â’ch creadigaeth unigryw adref gyda chi.
- Dysgu sgiliau newydd. Dysgwch y dull polion a gwiail (stake and strand) o wneud basged.
- Trin deunyddiau naturiol. Mwynhewch drin pren wedi’i fwydo ymlaen llaw, ar ei fwyaf hyblyg, dan arweiniad profiadol Eirian, gan ddyfnhau eich cysylltiad â’r byd naturiol. Darperir yr holl offer a deunyddiau.
- Gweithio gydag artist lleol Cymraeg ei iaith. Defnyddir y ddwy iaith ar y cwrs yn ôl anghenion unigolion.
- Gweithio mewn gofod creadigol trawiadol. Gweithiwch mewn amgylchedd naturiol a gofodau creadigol, a chewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd lleol enwog o Nantlle i Eryri, gyda’r byd naturiol o’ch cwmpas.

I bwy mae hwn?
Mae’r gweithdy hwn yn addas i ddechreuwyr ac i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwehyddu helyg, creadigrwydd, neu sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd. Does dim angen profiad artistig, dim ond parodrwydd i archwilio a mwynhau’r broses.
Amserlen…
09:30 – Croeso
13:00 – Cinio
16:00 – Gorffen (Mae croeso i chi aros a pharhau i fwynhau ein gofod heddychlon.)
£80, yn cynnwys y Gweithdy Basgedi a’r Holl Ddeunyddiau